Ymgyrchoedd ffilm ar gyfer gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a sinemâu lleol.

Rîl fer gan Idris Films sy’n dangos ansawdd ein gwaith a’r amrywiaeth o gleientiaid rydym yn gweithio gyda nhw.

Ar gyfer pwy mae ymgyrchoedd ffilm?

Cwmnïau a brandiau

Ffilmiau sy’n adeiladu eich brand, hyrwyddo’r hyn rydych yn ei gynnig a helpu troi diddordeb yn archebion, gwerthiannau neu ymholiadau.

Prosiectau cymunedol

Ffilmiau sy’n adeiladu momentwm, dathlu pobl, casglu cefnogaeth a helpu eich prosiect i deimlo’n fyw, yn weithgar ac yn werth ymuno ag ef.

Sefydliadau cyhoeddus

Ffilmiau sy’n ymgysylltu, hysbysu ac egluro negeseuon pwysig yn glir ar draws gwefannau, cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd cyhoeddus.

Un sesiwn ffilmio. Sawl allbwn.

Proses syml a chydweithredol.

1

Cynllunio

Rydym yn dod i adnabod eich busnes, eich cynulleidfa a beth sydd angen i’r ffilmiau ei gyflawni, cyn adeiladu briff syml ac amserlen cynhyrchu glir.

2

Ffilmio

Rydym yn dîm bach ac ysgafn sy’n gallu gweithio’n gyflym, gan gasglu deunydd o ansawdd uchel mewn cyfnod byr. Fel arfer, mae’n broses hamddenol ac yn hwyl!

3

Cyflwyno

Byddwch yn derbyn set hyblyg o olygiadau ar gyfer gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion taledig a sgriniau sinema, gyda phroses ôl-gynhyrchu hyblyg nes eich bod yn gwbl hapus â’r canlyniad.

4

Cefnogi

Roeddem arfer gwneud y ffilmiau a gadael y prosiect yno, ond gwelsom fod llawer o gleientiaid yn cael trafferth gyda’r marchnata. Rydym bellach yn cynnig gwasanaeth i ryddhau a marchnata’r cynnwys ar eich rhan er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf.

Tystebau

Mae cleientiaid a chydweithredwyr blaenorol yn cynnwys:

Will a Nadia o Idris Films

Will a Nadia ydyn ni.

Rydym yn rhedeg stiwdio greadigol sy’n darparu ffilm a chynnwys creadigol arall i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru sydd angen help i gyrraedd cynulleidfa, hybu ymgysylltiad a gwerthiant, a chyfathrebu negeseuon pwysig i gynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol.

Rydym wedi’n lleoli ym Machynlleth ac yn gweithio ledled Cymru. Gallwn hefyd gyflwyno prosiectau’n ddwyieithog lle bo angen.

P’un a oes angen un ffilm raenus arnoch neu gefnogaeth barhaus ar sail retainer, rydym yn creu cynnwys defnyddiol ar gyfer gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a sgriniau sinema lleol.

Cylchlythyr chwarterol

Diweddariadau achlysurol am brosiectau newydd, gwaith creadigol a’r hyn rydym yn ei greu.

E-bost: idrisfilms.studio@gmail.com

Ffôn: 07830 927623

Cymdeithasol:

Gadewch i ni greu rhywbeth fydd pobl yn ei gofio.